Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofn i mi weld rhwfun arall tebyg i mi. Pan ddeudes y stori wrth fy mam, ebe hi,—"

Ië, siwr, dyna nhw, does dim lwc i'w canlyn nhw."

—————————————

Y Ddau Deulu

Y MAE arnaf ofn, ebai F'ewyrth Edward, fod tuedd mewn rhai pobol yn y dyddiau hyn i feddwl nad oes a wnelo Duw ddim ag amgylchiadau tymorol dyn. Yn wir mi glywais yn ddigon hyf mai hap a damwain a phawb drosto ei hun ydi hi yn y fuchedd hon. Ac mewn ystyr dydio ddim yn rhyfedd fod rai yn dweud yn mynd i gredu felly, achos yr ydym yn gweled mor fynych y mae y dyn drwg anonest yn llwyddo, a'r dyn da a chywir yn aflwyddo. Ond yn mhlith y bobol oedd yn cael eu cyfrif yn bobol dda a ddarfu aflwyddo ag y dois i i gysylltiad â hwynt yn ystod fy oes, yr oeddwn, ymron yn ddieithriad yn gallu rhoi fy mys ar y rheswm o'u haflwyddiant. Yr oedd rhyw gancr, nad oedd yn ngolwg pawb, bob amser oedd yn achos o'r cwbwl. Os cei di fyw ddigon o hyd, ac os cymeri di sylw manwl o deuluoedd a phethau, mi gei allan yn y man fod Rhagluniaeth