Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dod a phethau i drefn, ac fel pe byddai yn cywiro ei hun yn y diwedd yn gwobrwyo daioni ac yn cospi drygioni. Dyma i ti stori am ddau deulu yr oeddwn yn eu hadwaen yn dda, ac y mae mor wir a dim a ddwedwyd erioed. Ond aros am funyd. Yr wyf wedi clywed dy fod yn printio rhai o'r straeon yr wyf yn eu hadrodd wrthyt, ac o herwydd fod amryw o'r ddau deulu yn fyw heddyw mi rof enwau eraill arnynt.

Yn Nyffryn Maelor, flynyddau lawer yn ol, yr oedd amaethwr ieuanc newydd briodi ac yn dal un o'r ffermydd goreu yn y wlad. Mi galwaf o yn Mr. Jones, y Wern. Dydw i ddim yn gwybod yrwan, os bum yn gwybod erioed, sut y gallodd o gymeryd ffarm mor dda; ond mi wn ei fod yn hollol ddi-ddysg. Yr oedd yn wr diwyd a medrus, a'r wraig can fedrused ag yntau, ac yr oedd y byd yn myn'd efo nhw a'u llwyddiant yn eglur i bawb. Tra na adawai Mr. a Mrs. Jones i neb fyn'd tu hwnt iddynt yn y ffair a'r farchnad ac am drin y ffarm a magu anifeiliaid, nid oeddynt yn ol i neb am eu ffyddlondeb a'u haelioni yn y capel. Gwyddai y cymydogion yn burion fod teulu y Wern, heblaw cynyddu eu stoc yn feunyddiol, yn casglu arian hefyd, ac yr oeddynt