Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

goach, safai y gyrwr yn ein hymyl, gan ddis gwyl cael ei dipio, ac er mwyn actio'r gŵr boneddig rhoddais swllt iddo, ac felly gwnaeth Wil. Yna gwelem ŵr y gôt lwyd yn ffymblo ei logellau yn hir, ac yn y man estynodd i'r gyrwr ddwy geiniog. Gwelaf wyneb y gyrwr yn glasgochi, a dechreuodd dafodi gŵr y gôt lwyd yn enbyd.

"Pa fusness oedd gan ryw garp fel chi ddod ar y bocs,' ebe fe; ' lle i foneddigion ydi'r bocs, ac oni bai y bydde'n ffiaidd gen i daro swp o esgyrn fel chi, mi rown i chi gurfa y cofiech am dani. "

"Mi naech?" ebe'r gŵr llonydd; ac erbyn hyn yr oedd amryw wedi hel o'n cwmpas. "Mi naech?" ebe fe; "be bydae chi'n treio?" a thaflodd y gôt lwyd oddiam dano.

Yr oedd y gyrwr yn anterth ei ddedwyddwch am gael cyfleusdra i roi curfa i ŵr y ddwy geiniog. Ond druan o hono! Tarawodd y gŵr llonydd ef nes oedd yn chwyrnellu, ac na wyddid pa ben iddo oedd uchaf. Ond daeth ymlaen drachefn, i fyn'd drwy yr un oruchwyliaeth yn gymwys, ac erbyn hyn nid oedd y gyrwr yn awyddus i godi oddiar lawr. Ac ebe gŵr y gôt lwyd,—