Os bydd ar y brolgi yna eisiau gwybod rhywbeth yn mhellach am danaf, fy enw yw Twm Cynah; yr wyf yn byw yn Maesydref, Wyddgrug," a cherddodd yn hamddenol i'r Crown.
Yr oedd Wil a minau erbyn hyn wedi dychrynu yn fawr, ond gwnaethom, yr wyf yn meddwl, y peth goreu allasem ei wneud dan yr amgylchiadau,—euthom ar ei ol i'r tŷ i erfyn ei bardwn, ac i gynyg talu am hyny a ddymunai o ddiod. Ond ebe Twm Cynah, a dyma ydyw y wers —,
"Dydw i ddim yn yfed, diolch i chi, fechgyn, a chymerwch air o gyngor gen i. Pan ewch oddicartre y tro nesaf, gofalwch am gymeryd rhywun i edrych ar eich holau. Yr wyf yn maddeu i chwi eich camymddygiad, am fy mod yn gwybod mai diffyg synwyr oedd yr achos o hono. Cymerwch ofal na byddant yn eich cau i fyny yn y tŷ mawr yna sydd yn ymyl. Ond hwyrach fod gynoch chi ddigon o synwyr i gofio hyn,—peidiwch byth a chymeryd pobol wrth eu golwg, a pheidiwch byth a gwawdio pobol hyd y ffordd, yn enwedig merched a hen bobol ddiniwed. Pan oeddych yn gwawdio yr hen wr hwnw cyn cyraedd y dre, fum i rioed dan у fath