Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

demtasiwn ag i'ch taflu chi'ch dau a'r driver hefyd dros y gwrych, yr hyn a fedraswn yn hawdd. Peth arall, pan glywch chi rywun yn canmol ei hun yr un fath a'r driver yna, penderfynwch mae lob ydyw." Anghofiais i byth gyngor Twm Cynah, a mi fu yn wers i mi am fy oes, ebe F'ewyrth Edward.

—————————————

Y Ddau Fonner

DAU hen begor rhyfedd oedd William a Richard Bonner, ebai Fewyrth Edward. Mae genyf gof gweddol am y ddau, ond nid digon da i roi desgrifiad o honynt. Brodorion oedd y ddau o Wernymynydd, ger y Wyddgrug. Yr oedd William yn bregethwr, a Richard yn weinidog, nid anenwog, gyda'r Wesleyaid. Cydnabyddid Richard Bonner yn ddyn witi neillduol, ac nid oedd William ei frawd yn ddiffygiol o'r ddawn hono. Haner can' mlynedd yn ol, yr oedd yn ffaith adnabyddus mai William Bonner a'r "Hen Wadan" oedd y ddau ddyn cryfaf yn y plwy os nad yn y sir. Cariodd yr "Hen Wadan" ddeg troedfedd (cubic) o dderw solet ar ei ysgwydd, a chariodd William