Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfod taleithiol fe wnaeth gais am gael ei ystyried yn uwchrif. Nid oedd y frawdoliaeth yn gweled ei ffordd yn glir i ganiatau hyn am y rheswm nad oedd ganddynt neb ar y pryd mewn golwg i gymeryd ei le, neu rywbeth arall, ac ebai llywydd y dalaeth fel rhagymadrodd i berswadio Mr. Bonner i alw ei gais yn ol,

"Wel, Mr. Bonner bach, mi wyddom oll fod genych hawl i ofyn am gael eich gwneud yn supernumerary; ond yr ydych, hyd yn hyn, yn gryf, nid ydych yn pesychu, ac yr ydych yn pregethu yn dda—

"Ni chafodd y llywydd fyn'd ddim pellach cyn i'r hen ŵr pert godi ar ei draed, ac ebai fe, "O diar, os eisieu pesychu sydd, mi fedra i besychu cystal a run o honoch chi, ond os ydach chi am aros nes i mi bregethu yn sal mi fyddaf am byth heb gael yngwneud yn supernumerary." Nid wyf yn cofio sut y terfynodd gyda golwg ar gais Mr. Bonner, ond dyna ddigon i ti i ddangos pertrwydd y dyn a'i wit barod. Os nad oes bywgraffiad wedi ei wneud i Richard Bonner, y mae yna waith difyr a buddiol yn aros rhywun.

—————————————