Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Daleb

DYMA un o'r ystorïau yr ymhyfrydai fy Ewyrth Edward ei hadrodd, am ei bod yn wir bob gair, fel y dywedai:—

Mi wyddost fod yr achos Methodistaidd yn y dref yn hen achos—un o'r rhai hynaf yn y Sir. Nid oedd pobl er's talwm yn cyfranu haner cymaint a chrefyddwyr y dyddiau hyn, ac nid oedd cymaint o anghen. Er bod gweinidog a dau bregethwr yn perthyn i'r achos yn y dref, ac mewn rhan yn gwneud gwaith bugail, ni byddai neb yn meddwl rhoi dimai iddynt am eu llafur. Caent ychydig am bregethu a dyna'r cwbl. Ond er cyn lleied a gyfrenid, yr oedd y cyfeillion wedi talu am y capel er's rhai blynyddoedd, ac yr oedd ganddynt arian yn llaw y trysorydd. Go ddisut y byddai yr hen bobl yn trin y materion arianol—yr oedd y cwbl yn cael ei adael i ddau o'r blaenoriaid, a phawb yn ymddiried ynddynt fel dynion gonest, ac ni byddai neb o honynt yn gofyn am gael gweled eu cyf rifon, a phe gwnaethai rhywun hyny buasent yn ei ystyried yn insult. Yn wir, ni wyddai eu cyd-flaenoriaid eu cyfrinach—yn unig derbynient eu hadroddiad ddiwedd blwyddyn yn eithaf tawel. Yn y dyddiau hyny byddai llawer yn