dyfod o bell o ffordd i gapel y dref, yn enwedig o Wernhefin, ac yn eu plith ddau frawd—dau ffermwr cyfrifol. Yn mhen amser gwnaeth y ddau frawd apêl am gael dechreu achos yn Ngwernhefin, am fod cerdded deirgwaith i'r dref ddwy filldir o ffordd yn feichus. Caniatawyd y cais gan bobl y dref, ac yn fuan codwyd capel bychan yno i gadw Ysgol Sul y bore, ac i gynal oedfa y prydnawn gan y pregethwr a ddigwyddai fod yn y dref. Fel hyny y bu am rai blynyddoedd nes sefydlu canghen eglwys yno, pryd y gwnaed Edward a Thomas Williams—y ddau frawd—yn flaenoriaid yn Ngwernhefin. Yn mhen rhai blynyddoedd yr oeddynt wedi talu cost adeiladu y capel bach o fewn deugain punt, ac o herwydd y gwyddid fod gan gyfeillion y dref arian mewn llaw, gofynwyd am fenthyg deugain punt yn ddilôg, ac y telid yr arian yn ol pan fyddai galw, yr hyn a ganiatawyd. Wedi cael benthyg yr arian, aeth cyfeillion Gwernhefin yn ddifater am dalu eu dyled. Perthynai i eglwys y dref wr o'r enw John Evans, gŵr blaenllaw iawn gyda'r achos, a'i brif hynodrwydd oedd meithder ei weddïau. Byddai ein gliniau wedi cyffio bob tro y gelwid ar John Evans i weddïo. Er i ddewis blaenoriaid
Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/37
Gwedd