gymeryd lle amryw weithiau yn y dref yn ystod arosiad John Evans yno, gadawyd ef bob tro heb ei ddewis. Ond gwnai John Evans y diffyg i fyny drwy weddïo gyhyd a thri bob tro y cai gyfleusdra. Yn mhen yr hwyr a'r rhawg daeth angen am arian ar bobl y dref, a galwyd ar gyfeillion Gwernhefin i dalu y deugain punt yn ol. Wedi cael llawer cyngherdd, darlith a thê parti, casglwyd yr arian. Aeth blynyddoedd heibio, ac erbyn hyn yr oedd financiers eglwys dref wedi meirw, a John Evans wedi symud i Wernhefin, ac wedi ei ddewis yn flaenor yno. Fel y gwelsent yn y dref, felly y gwnaethant yn Ngwernhefin—cadwai y ddau frawd bob cyfrinach arianol iddynt eu hunain, ond yr oeddynt yn ddynion o gymeriad tryloew, ac o dduwioldeb diamheuol. Oddeutu blwyddyn wedi dewisiad John Evans yn flaenor, bu farw un o'r ddau frawd, sef Edward, a syrthiodd yr holl gyfrinach i fynwes Thomas yn unig. Yn fuan, am ryw reswm neu gilydd, ystyfnigodd John Evans, a gwrthodai gymeryd unrhyw ran gyhoeddus yn y capel. Deuai i'r moddion yn gyson i edrych dan ei guwch. Un nos Sul, yn y seiat, ar ol ei gymhell yn daer i ddyweyd gair ac iddo yntau wrthod, ebe Thomas Williams—