Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Noswaith y prawf a ddaeth, ac fel y dygwydda ar achlysuron cyffelyb nid oedd ewin yn ol yn y seiat hono. Edrychai Thomas Williams yn guchiog a phenderfynol, ac edrychai ei fechgyn yn benuchel, a dywedai rhywrai mai gweddusach fuasai iddynt aros gartref neu ynte gadw eu penau i lawr. Wedi i'r gweinidog ieuengaf ddarllen a gweddïo, gan gyfeirio ar y weddi fwy nag unwaith at yr achlysur anghyfforddus, ac wedi i'r plant adrodd eu hadnodau a chael eu hanfon adref, gosododd y gweinidog hynaf yr achos y daethent yno o'i blegid yn glir a phwysig o flaen yr eglwys, ac nid heb arddangos llawer o ofid calon, canys yr oedd efe a'r cyhuddedig wedi bod yn gyfeillion mawr. Yna yn bur dyner gofynodd i'r hen flaenor beth oedd ganddo i'w ddyweyd drosto ei hun? Cododd Thomas Williams ar ei draed yn nghanol distawrwydd fel y bedd, a dywedodd, mor agos ag y gallaf gofio fel hyn:—

Benthyciwyd y deugain punt bymtheng mlynedd ar hugain yn ol, a mi telais inau nhw bum ' mlynedd ar hugain i ddydd Mercher diweddaf. Er pan ddaeth John Evans â'r cyhuddiad yn fy erbyn, gellwch yn hawdd ddych'mygu fy nheimladau. Nid wyf ar hyd yr