Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser wedi cysgu na bwyta ond ychydig. Yr wyf fi a'r plant o'r diwrnod hwnw hyd heddyw wedi chwilio am y receipt yn mhob cornel o'r tŷ, ond yn hollol ofer; ac yr oedd meddwl am eich dyfodiad yma heno, a'r achlysur o hono, fel pe buasai rhywun yn rhoi cyllell yn fy nghalon. Am y canfed tro fe ddarfu i'r plant a minau chwilio'r tŷ o'r top i'r gwaelod am y receipt heddyw, ond i ddim pwrpas. Pan oeddym yn ceisio cymeryd cwpaned o dê, mi a ddywedais wrthynt:—'Wel blant, fe gaiff eich tad ei ddiarddel heno, ond y mae fy nghydwybod yn lân o'r bai a roir yn fy erbyn,'" ac yn y fan hon torodd yr hen flaenor i lawr, a bu raid i ni aros mynyd iddo adfeddianu ei hun pryd yr ychwanegodd:—"Ar ol tê mi glöis fy hun yn y parlwr i aros amser y seiat, ac os gweddïais erioed mi weddïais heno. Yr oeddwn yn teimlo fod Duw yn delio yn o galed efo hen was. Rhaid i mi gyfadde fy ngwendid fy mod wedi edliw tipyn iddo. Mi ddeudes wrtho y mod i wedi treio ei wasanaethu er yn hogyn, fy mod wedi cyfranu at ei achos yn ol fel yr oedd o wedi fy llwyddo yn y byd, y mod i wedi agor fy nhŷ i groesawu ei weision ar hyd y blynyddau, a mi ofynais iddo a oedd o'n myn'd i'm mwrw