Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyweyd hyny, ond dyna'r peth goreu gawsoch chi ynddi erioed."

Fedra i ddim darlunio i ti, ebe fy Ewyrth Edward, ein teimladau y noson hono. Yr oedd pawb yn wylo o lawenydd oddigerth John Evans Edrychai ef fel pe buasai wedi ei saethu. Ond credai rhai fod John Evans yn eithaf gonest yn ei dybiaeth er iddo gam gymeryd. Ni fu fyw fawr wedi hyn, ac ymddangosai fel dyn wedi tori ei galon.

—————————————

Enoc Evans, y Bala

OES, y mae genyf gof gweddol am Enoc Evans, y Bala, ebai F'ewyrth Edward. Ddaru Enoc a finau ddim ei hitio hi yn dda iawn,—yr oedd ef wedi dod i'r byd dipyn yn rhy fuan, a minau dipyn yn rhy hwyr, ac felly ni ffurfiwyd fawr o gwentans rhyngom. Ond mi glywais lawer o son am Enoc fel un oedd yn ddarllenwr diail, ac yn hoff iawn o adar. Nid oedd neb yn ei bwyll yn dyfod yn hwyr i'r oedfa pan fyddai Enoc i bregethu, oblegid ei glywed yn darllen y bennod oedd y trêt. Nid oedd, fel y clywais ddynion o farn yn dweyd, yn rhyw helynt o bregethwr. Yn y dyddiau hyn, Castle