Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Street, yn yr Wyddgrug, ydyw yr ystryd iselaf a butraf yn y dref. Nid wyf yn meddwl fod ac na fu i un tŷ ddrws cefn gydag un eithriad, ac y mae y nifer mwyaf o'r tai erbyn hyn wedi eu datgan yn anghymwys i neb drigo ynddynt. Ond у mae i'r hen ystryd hanes cysegredig iawn. Pe gallasai Castle Street adrodd ei hanes ei hun, fe fuasai ganddi lawer iawn i'w ddweyd, a hwnw o ddyddordeb neillduol. Yn y tŷ cyntaf ar y llaw dde y trigai yr hen Angel Jones, y blaenor enwog y canodd Glan Alun farwnad gampus iddo. Yn y caban hwn y magodd Angel deulu mawr, ac y gwnaeth fusnes anferth fel teiliwr. Nid oes i'r tŷ ond dwy 'ystafell wely, ac un fechan fach arall ar ben y grisiau, ac eto, mor ryfedd ydyw meddwl, hwn oedd prif gartref rhai o brif enwogion y pwlpud Cymreig am lawer o flynyddoedd yn eu hymweliadau â'r dref. Yn y tŷ bychan distadl hwn y cysgodd Eben. a Thomas Richards, William Havard, Roberts, Amlwch, John Elias, y ddau Jones o Lanllyfni, Henry Rees, a llu eraill, pan ddeuent i'r Wyddgrug i bregethu, ac yn eu plith Enoc Evans, y Bala.

Yn nhop Castle Street trigai cymeriad rhyfedd—yr wyt yn ei gofio yn dda—o'r enw