Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William Jones, teiliwr fyth. Wrth yr enw Cwil yr adnabyddid ef yn gyffredin. Dyn byr, gorsyth ydoedd, bob amser yn gwisgo dress coat a top hat. Nid oedd Cwil na Chymro na Sais, ond yr oedd ganddo grap ar y ddwy iaith. Egwan iawn oedd ei alluoedd meddyliol, a bu am dri mis ar ol tyfu i fyny yn ceisio dysgu y pader, ac yn y diwedd bu raid iddo roi yr ymdrech heibio fel bad job. Dau beth a hoffai Cwil yn fwy na dim arall, sef cwrw ac adar. Byddai yn cael term hir weithiau, a chlywais ef yn dweyd ei fod wedi colli tri diwrnod o'i oes na wyddai ddim am danynt. Yr oedd Cwil wedi cael wythnos o spri, a chysgodd o nos Sadwrn hyd fore Mercher heb ddeffro. Yr oedd Cwil bob nos Sadwrn o'r flwyddyn ar ol cael ei gyflog, ac ymolchi a shafio, yn myn'd at ei ddiod i'r Talbot, ac yn yfed mor drwm fel na wyddai ddim wrth adael y dafarn ond mae "troi ar y dde" oedd y ffordd gartref. Ond un Sadwrn perswadiwyd ef gan gyfaill i fynd i'r "Eagle and Child," yr ochr arall i'r heol. Wrth gychwyn gartref y noson hono cofiodd Cwil am y rheol ddieithriad o "droi ar y dde," a chafodd ei hun fore Sul wrth Bentre Hobin, ar ffordd Wrexham, yn gorwedd yn môn y clawdd, ac yn methu drinad pa fodd a fu iddo