fethu yn ei land-marks. Ond fel y dwedais, yr oedd Cwil yn hoff iawn o adar—yn fwy felly na chwrw. Un tro pan oedd Enoc Evans yn pregethu yn yr Wyddgrug, digwyddodd yr ben Angel son wrtho am adar Cwil Jones. Aeth Enoc yno ar ei union, a bu Cwil ac yntau yn siarad am adar hyd haner y nos, a buasent wedi parhau hyd y bore oni buasai i Angel fyn'd i nol ei lodger.
Ar ol hyn gofynai Cwil yn feunyddiol i Angel,—"Hengel, pryd mae y bird merchant yn dwad yma i pygethu eto?" A phan ddeuai Enoc Evans ar draws gwlad i'r Wyddgrug, y peth cyntaf a wnai, cyn cael tamaid o fwyd, oedd ymweled a Cwil, ac ymgomio am yr adar, a llawer tro buasai Enoc wedi anghofio ei ymborth a'r oedfa a'r cwbl yn nghwmni Cwil, oni bai fod Angel yn ymyl. Un tro yr oedd Enoc Evans wedi cymeryd ffansi anghyffredin at canary oedd yn meddiant Cwil,—yr oedd yn dotio ato fel cantwr, ac eisteddodd yr hen begor i wrando arno am oriau. Y waith gyntaf y daeth Enoc i'r Wyddgrug wed'yn—ar ol rhoi ei geffyl i fynu yn y "Black Boy," aeth yn syth i edrych am Cwil Jones, ac wedi llygadu o gwmpas y tŷ, ebai fe,