Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Enoc Evans, mae'n bryd i chi ddod i'r tŷ ers meityn," ebe Angel.

Mi fum yn aros am dipyn yn y Bala, ebe F'ewyrth Edward, ac yn ystod yr amser hwnw mi adwaenes ddau fab i Enoc Evans. Saer maen oedd un, a Dafydd oedd ei enw, os wyf yn cofio yn dda. Y pryd hwnw yr oedd yn adeg isel ar grefydd, a'r gwaith yn slac. Er mwyn cael ychwaneg o waith gadawodd Dafydd grefydd ac aeth i'r Eglwys. Ond yn y man ymwelodd diwygiad crefyddol â thref y Bala, ac yr oedd yn amser hyfryd ar y cyfeillion yn yr hen gapel.

Un noson seiat, pan oedd y diwygiad yn ei wres, daeth Dafydd yn ol i'w hen gartref, ac aeth Doctor Lewis Edwards i ymddyddan ag ef. Yr oedd yr ymgom mor agos ag y gallaf gofio fel hyn,—

"Wel, Dafydd Evans, beth wnaeth i chwi droi yn ol?" gofynai y Doctor.

"Ffilio bod yn gyfforddus adeg y diwygiad yma yn yr hen Eglwys ene," ebe Dafydd. "Y mae yna bobl dda iawn yn yr Eglwys," ebe y Doctor.

"Oes," ebe Dafydd, "rhai da iawn am edrach ar ol y corffyn, yn eich curo chi yma yn arw am hyny. Yr oeddwn i'n cael mwy o waith o lawer