Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn yr Eglwys na phan oeddwn i'n arfer dod yma. Ond rhai go sâl ydyn nhw am edrach ar ol yr ened."

" Wel," ebe'r Doctor, " yr oeddwn yn clywed fod pobl yr Eglwys hefyd yn edrych ar ol yr enaid. Yn y diwygiad yma yr oedd genych yn yr Eglwys gyfarfodydd gweddio fel ninau yn y capel, ond oedd?"

"Oedd, Mr. Edwards," ebe Dafydd, ond wyddoch chi'r gair ddoth i'm meddwl i wrth eu gweled nhw wrthi?"

"Na wn i'n siwr," ebe'r Doctor.

"A'r swynwyr a wnaethant yr un pethau," ebe Dafydd, a chwarddodd y Doctor nes oedd ei ochrau yn mynafyd.

—————————————

Het Jac Jones

Mi glywaist lawer gwaith fod gan y meddwl gryn lawer i'w wneud âg iechyd neu afiechyd y corff, a mae hyny yn ddigon gwir Dyma hanes i ti sy'n cyn wired a'r pader.

Wedi i mi dyfu i fyny'n llanc, yr oeddwn wedi glân laru ar weithio ar y ffarm,—yr oedd yn fywyd rhy lonydd i mi. Yr oeddwn wedi clywed fod cyflog da i lanciau yn ffactri gotwm yr Wyddgrug, a ffwrdd a fi yno i edrych am