Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mae'n reit hawdd treio y peth bydae ti a Wil James yn rhoi eich penau yn nghyd sut i experimentio ar un o'r chaps yma. Os na fedr Wil ddyfeisio rhywbeth yn y ffordd yna, lle sal i ti a finnau dreio, achos cwtrin o fachgen ydi Wil." Syniai Wil yn gyffelyb am Burgess, mai cwtrin oedd yntau.

Wyst di be," ebe Wil wrthyf un diwrnod, "mi leiciwn farw yr un funud a'r hen Burgess yma."

"Pam hyny?" ebe fi. " Am fod ganddo gymin i'w aped am dano," ebe Wil, "a thra y bydden nhw yn trin ei gês o mi fedrwn snecio i'r nefoedd heb i neb sylwi."

Pa fodd bynag, soniais wrth Wil am awgrymiad Thomas Burgess, a chyn nos yr oedd cynllun Wil yn barod. Yr oedd un o'r spinners, Jac Jones wrth ei enw, bob amser yn gwisgo top hat, ac yn ei gosod ar hoel tuallan i'r spinning-room. Cynllun Wil oedd rhwymo llinyn du main o gwmpas gwaelod yr het, wrth y cantel, a'i thynu i mewn chwarter modfedd, a mae chwarter modfedd, ti wyddost, yn ddau size mewn het, ac wed'yn perswadio Jac Jones fod ei ben wedi chwyddo. Yr oedd y cynllun wrth fodd yr hen Burgess. Bore dranoeth, cyn gynted ag yr aeth