Jac Jones at ei waith, rhwymodd Wil y llinyn am yr het yn reit nêt, ac, yn ol y cynllun, eisinau i'r spinning-room, a dywedais wrth Jac, "John Jones, ydach chi ddim yn iach heddyw?"
Ydw, machgen i, pam roeddat ti'n gofyn?"
"O dim," ebe ti, "ond y mod i'n meddwl fod gynoch chi dipyn o chwydd yn eich arleisiau."
Nag oes, neno dyn, yr ydw i'n cael iechyd campus, diolch am dano," ebe Jac.
Oddeutu saith o'r gloch aeth Wil ato, a dywedodd,—
"John Jones, dydach chi ddim yn edrach run fath ag arfer bore heddyw; oes gynoch chi boen yn y'ch pen?"
"Nag oes, neno diar; ond oedd Ned yn gofyn yr un peth gyne; be naeth i ti feddwl?"
"Wn i ddim," ebe Wil," ond y mae rhywbeth yn edrach yn od yn ych pen chi, fel bydae chi wedi cael dyrnod un ochr. Gadewch i mi weld yr ochr arall. Na, mae'r ddwy ochr run fath; y fi ddaru ffansio, ddyliwn," a ffwrdd a Wil at ei waith.
Rhyw bum munud cyn amser brecwest, aeth yr hen Burgess ato, a dywedodd,—
"Dyma ti, Jac, fuost di mewn rhyw sgarmes