Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neithiwr? Rwyt wedi bod yn slotian efo'r hen ddiod eto, achos y mae dy ben di fel meipen gron; neu wyt ti wedi cael clefyd y penau sydd o gwmpas rwan? "

"Phrofes i ddyferyn ers wythnos, a mae mhen i gystal a phen yr un o honoch chi," ebe Jac, yn gwta.

"Gobeithio dy fod yn dweyd y gwir," ebe Burgess, ac ymaith ag ef.

Pan oedd Jac yn myn'd i'w frecwest, ac yn ceisio rhoi ei het am ei ben, ni fedrai yn ei fyw. Edrychodd ai nid oedd wedi cymeryd het rhyw un arall, ond cofiodd nad oedd neb yn gwisgo top hat ond efe, ac yr oedd ei enw, yr hwn yr oedd wedi ei ysgrifenu â'i law ei hun tu mewn iddi. Cafodd fenthyg cap i fyn'd i'w frecwest, a chariai yr het yn ei law. Ni ddaeth Jac Jones at ei waith ar ol brecwest. Ganol dydd galwodd Burgess i edrych am dano, a chafodd ef yn ei wely, yn dioddef gan boenau mawr yn ei ben. Dywedodd Burgess wrth Jac mai y clefyd yn ddiau ydoedd, ond fod meddyginiaeth wedi ei ddarganfod i'w wella ar unwaith, ac y deuai a'r cyffyr iddo y prydnawn hwnw, wedi i'r felin stopio. Aeth Burgess a minau i edrych am Jac y noson hono, a chymerasom dipyn o