Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sweet oil mewn potel gyda ni. Tra yr oedd Burgess a gwraig Jac yn y llofft, yn cymhwyso y sweet oil at ei ben, yr oeddwn inau yn y gegin yn tynu y llinyn oddiar yr het; ac er mwyn dangos mor effeithiol oedd y feddyginiaeth, anfonodd Burgess y wraig i nol yr het a gallodd Jac ei rhoi am ei ben yn hwylus. Yn wir, gan gymaint o'r sweet oil oedd ar ei ben, llithrai yr het braidd yn rhy esmwyth, a da oedd fod gan Jac glustiau go fawr i'w hatal rhag iddi fyn'd dros ei wyneb. Ond rhyfedd, ni ddarfyddodd y poenau yn union deg, er i'r chwydd gilio ar unwaith, a bu Jac Jones ar y clwb am wythnos cyn ail ddechren gweithio. Ni chafodd wybod am y cast am dair wythnos, ac ni faddeuodd byth i ni.

Dyma stori arall i ti, ddigon tebyg, ebe fy Ewyrth Edward, ond caf adrodd hono eto hwyrach.

—————————————

Edward Cwm Tydi

FEL partner i stori Jac Jones a'i het, dyma i ti stori arall sydd yn dangos mor hawdd ydyw gwella ambell ddyn o afiechyd trwm, a mae'r hanes yn wir bob gair,-yr oeddwn yn ad nabod y bobol, ac y mae eraill yn fyw yrwan oedd