Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn eu hadwaen. Yr hyn a wnaeth i mi gofio yr hanes oedd clywed am y Seqwa yna sydd yn mynd o gwmpas y wlad i wella pobol o'r gymalwst (rheumatism) mewn ychydig funudau drwy eu rhwbio. Oddeutu trigain mlynedd yn ol, yr oedd yn byw mewn tyddyn o'r enw Cwm Tydi, yn agos i Llangollen, frawd a chwaer, sef hen lanc ifanc a hen ferch ifanc, o'r enw Edward ac Ann. Yn y dyddiau hyny byddai pobol yn cael eu hadnabod wrth y lle y byddent yn byw ynddo, neu wrth y gelfyddyd a fyddent yn ei dilyn. Er fy mod yn adwaen y brawd a'r chwaer yn dda, ni wyddwn mo'u henw ond fel Edward ac Ann Cwm Tydi. Yr oedd yr hen lanc a'r hen ferch mewn tipyn o oed. Dyn mawr, cryf, iach, oedd Edward, ond lled wanaidd oedd ei chwaer Ann.

Ryw dro cymerwyd Edward yn sâl iawn gan y gymalwst, fel na fedrai prin symud yn ei wely, wa goddef i neb gyffwrdd âg ef, ac yr oedd mewn poenau dirfawr, a gyrwyd ar ffrwst i Langollen am Doctor Morris. Dyn byr, cryno, oedd y Doctor, ac wedi clywed am afiechyd Edward, daeth i Gwm Tydi yn ddiymdroi, a dywedodd y gwnai anfon potelaid o ffisig i'r claf. Yr oedd i'r Doctor Morris was o'r enw Wil, bachgen o