Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgwyd neud daioni mawr iddo. Mi ysgydwodd Abram a fine fo ein gore glâs cyn rhoi'r ffisig iddo, fel yr oedd y botel yn deyd, a toc mi gododd a mi wisgodd am dano heb help, ac erbyn heddyw mae o reit sionc." Gwelodd Doctor Morris y camgymeriad, ac ebe fe,—

"Yr achos i mi roi gorchymyn ei ysgwyd yn dda oedd er mwyn i'r ffisig sefyll efo fo," ac aeth ymaith dan wasgu ei ochrau.

Bu Abram, wedi hyn, yn was efo nhad, a mi gwelais e'n bwyta llon'd gogor o winwyn oerion, ond stori arall ydi hono, ebe fy Ewyrth Edward.

—————————————

Thomas Owen, Ty'r Capel

WRTH son wrthot ti y noson o'r blaen am William a Richard Bonner, mi wneis ryw gyfeiriad at Thomas Owen Tŷ'r Capel, yr Wyddgrug. Un o'r cymeriadau rhyfeddaf a welais erioed oedd Thomas. Crydd oedd o wrth ei grefft; ond yr oedd o hefyd yn bregethwr efo'r Methodistiaid. Anaml y gwelaist di ddyn teneuach na fo, ond yr oedd yn hynod o ewynog ag yn gerddedwr dan gamp. Yr oedd ei drwyn yn union yr un ffurf a thrwyn y Duke of