Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wellington, fel knocker drws. Wrth i mi son am ei drwyn yr wyf yn cofio digwyddiad lled ysmala' iddo. Yr oedd gan Thomas arferiad wrth bregethu o estyn ei fys blaen allan fel pe buasai yn pwyntio at rywun yn y gynulleidfa, ac yna gymeryd gafael yn ei drwyn gyda'i fys a'i fawd, a deuai y bys blaen allan wed'yn. Un tro fe ddarfu i bobl Nerquis roi gwahoddiad i Thomas Owen i ddyfod yno i gadw plygain am bump o'r gloch yn y bore yn y capel, ac ufuddhaodd yntau yn barod ddigon. Yr oedd y capel yn dan sang. Nid oedd lampau na gas wedi dod i arferiad y pryd hwnw. Canwyllau gwêr a fyddai yn mhobman, a gofalid am snuffers ar bob pwlpud er mwyn i'r pregethwr allu topio y canwyllau pan ddechreuent ddylu. Gweddïodd Thomas yn afaelgar iawn y bore hwnw, a dyna yr adeg yr oedd efe yn erfyn ar ran brenines Madagascar. "Achub hi, Arglwydd, neu symud yr hen Jaden front," meddai Thomas. Pa fodd bynag, gyda iddo ddechreu pregethu sylwodd fod y canwyllau yn düo, ac edrychodd o'i gwmpas am y snuffers, ond nid oedd un yno. Gwlychodd Thomas ei fys a'i fawd ar ei wefus a thorodd ben y canwyllau. Yna cydiodd yn ei drwyn gan adael parddu mawr arno. Dechreuodd y bobl