Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwerthin. Cynhyrfodd Thomas yn fawr pan welodd y gynulleidfa mor gellweirus, a cheryddodd hwynt yn llym, a chydiodd yn ei drwyn eilwaith nes ydoedd can ddued a'i esgid, a'r bobl yn mynd i chwerthin yn waeth waeth, yn enwedig yr hogiau drwg. O'r diwedd ebe Thomas, "Beth sydd arnoch chi, bobl annuwiol; Mae'r fath ymddygiad yn nhŷ Dduw yn warth i grefydd! Os dyma'r fath beth ydi plygain, ddo'i byth i'r un eto tra bydda'i byw," a rhodd ben ar y bregeth mewn natur ddrwg. Ond wedi deall yr achos o'r chwerthin a gweld ei wyneb yn y drych, chwarddodd yntau hefyd

Brodor o'r Bala oedd Thomas Owen ac yr oedd yn fab i Richard Owen, y gŵr a weddïodd am bymtheng mlynedd o estyniad oes i Mr. Charles ac a gafodd ei wrando, ac yn y cyfnod hwnw y cyfansoddodd Mr. Charles y Geiriadur a fu o fendith anmhrisiadwy i Gymru. Yr oedd neillduolrwydd mawr yn Thomas hefyd fel gweddïwr, ac atebwyd rhai o'i erfyniadau cyhoeddus yn bur amlwg. Un tro yr oedd Thomas Owen yn pregethu yn Adwy'r Clawdd ar adeg o dlodi a chyfyngder mawr. Yr oedd yno ganoedd o bobl allan o waith ac yn dioddef gan eisiau bara. Gweddïodd Thomas yn daer a