Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gafaelgar am i'r Arglwydd ddatguddio ryw wythïen werthfawr yn y gymydogaeth a roddai waith i'w greaduriaid anghenus, a dywedai wrth y Brenin Mawr,—" Mai gen ti, Arglwydd, ddigon o gyfoeth yn yr hen ddaear yma bydae ti ddim ond yn cyfeirio llygaid rhwfun at y man lle mae o."Yn mhen deuddydd neu dri darganfyddwyd gwythïen o blwm a roddodd waith i'r holl ardal am flynyddoedd.

Yr oedd newyddion yn hir yn cario y dyddiau hyny, ac yr oedd Michael Roberts, Pwllheli, y pregethwr enwog, wedi bod yn asylum Caer er's tipyn cyn i Thomas Owen glywed am hyny, a phan glywodd teimlodd i'r byw. Y nos Lun gan lynol, yn y cyfarfod gweddïo, erfyniai Thoinas, yn ei ddull ei hûn, yn daer a gwresog am adferiad i'r gŵr mawr. Gwaeddai yn uchel a thanbaid, Arglwydd, cofia am Meic bach anwyl! cofia dy was Meic," &c. Cyn diwedd yr wythnos yr oedd Michael Roberts yn nhŷ Angel Jones yr Wyddgrug, yn aros am y goach fawr i Ruthyn, ac wedi ei adfer yn lled dda. Soniodd Angel wrtho am weddi Thomas Owen, ac erbyn deall, ar yr awr a'r pryd yr oedd Thomas yn gweddïo y cafodd Michael Roberts y gwellhad.

Bu Thomas Owen am yspaid yn cadw giat