dyrpeg yn Ngwernymynydd, ac yr oedd efe ar y pryd yn bur dlawd, ond yr oedd yn ddiail am ei ffyddlondeb yn y moddion gras. Sylwodd rhai o'r brodyr fod ei ymddangosiad yn dlodaidd, a'i gotwm yn llwm anwedd ac ordor, a phenderfynodd rhai o honynt yn eu plith eu hunain ei anrhegu â siwt newydd, a chyfarwyddwyd Angel Jones i'w gwneud. Nos Sadwrn aeth Thomas adref yn bur falch â'i siwt dan ei gesail, a bore Sul gwisgodd hi, a throdd o gwmpas er mwyn i Marged ei simio. "Neiff hi'r tro, Marged?" ebe fe. "'Rwyt ti'n edrach fel gŵr boneddig," ebe Marged. Teimlai Thomas yn falch iawn o'r sylw, a chychwynedd tua'r capel. Wedi myn'd rhyw ugain llath safodd yn sydyn i edrych arno 'i hun, a throdd yn ei ol. Be di'r mater?" gofynai Marged. "Wel, i ti, dai ddim i'r capel yn y dillad newydd yma," ebe Thonnas. " Pam?" ebe Marged. " Mi ddeuda i ti pam," ebe Thomas, "pan weliff pobol y dillad newydd yma mi ddeudiff pawb y mod i'n dwyn arian y giat." "Paid a gwirioni," ebai Marged, "on'd ŵyr pobol y capel mai rhôdd ydi'r siwt?" "Gwyddan," ebe Thomas, "ond ŵyr pobol y byd mo hyny, wyddost, a mi ddeudan, 'Drychwch arno fo, yr hen grydd, mae'r giat yn talu'n iawn!' Na
Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/68
Gwedd