Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Marged, wisga i mno'r dillad newydd yma." Dihatrodd Thomas y siwt newydd a neidiodd i'w hen ddillad crestiog, ac aeth ar drot i'r Wyddgrug yn ddengwaith mwy hapus. Efe oedd i bregethu yn yr Wyddgrug y bore hwnw, a siomwyd y cyfeillion caredig pan welsant ef yn ei hen ddillad, ond esboniodd Thomas iddynt y rheswmi ' am hyny, ac ni allodd neb ei berswadio i wisgo y siwt nes iddo adael y giat a dyfod i fyw i dŷ'r Capel yr Wyddgrug.

Pan oedd Thomas yn cadw giat Gwernymynydd, yr oedd Edward Roberts, un o'r blaenoriaid galluocaf, mae'n debyg, fu erioed yn yr Wyddgrug, yn byw dipyn uwch i fynu nag ef yn yr un ardal. Mae genyf gof gwan am Edward Roberts, dyn o ran corff a gosgedd tebyg iawn i Doctor Edwards, y Bala, ond ei fod yn fyrach. Ystyrid Edward Roberts a Jones, Cefn y Gader, tad Glan Alun, fel y ddwy golofn gadarnaf yn eglwys yr Wyddgrug. Gŵr araf, pwyllog, ac athrawus oedd Edward Roberts, Gwernymynydd, a'i farn yn mhlith y brodyr yn derfynol ar bob pwnc. Gŵr eiddil, byrbwyll, a sionc fel aderyn tô oedd Thomas Owen. Ni fu dau mwy annhebyg yn gwisgo clôs, ac eto yr oeddynt yn gyfeillion mawr. Nid elai Edward