Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byth i oedfa na chyfarfod heb alw yn y giat am Thomas Owen. Un noson seiat bu pwnc o athrawiaeth dan sylw, a gwahaniaethai Thomas ac Edward yn eu barn yn ddirfawr. Cariwyd y ddadl yn mlaen rhwng y ddau ar hyd y ffordd i Wernymynydd, ac yr oedd Thomas wedi poethi ac Edward wedi cidwmu cymaint fel na ddarfu iddynt ddweud nos dawch wrth eu gilydd. Digiai Thomas mewn munyd a chymodai mewn munyd. Nid yn aml y digiai Edward Roberts, ond pan ddigiai digio a wnai. Bore Sabboth canlynol, ebe Thomas wrth Marged,—"Gad i ni wel'd neiff yr hen Ned alw yma heddyw. Yr oedd o wedi myn'd i'w gŵd yn enbyd nos Iau, ond gad i ni weld ydi o wedi dod ato'i hun. Os passiff o, gad iddo bassio—paid a myn'd ar yr hector. Dacw fo'n dwad yn ddigon syth, a'i lon'd o'r hen Adda, mi gymra fy llw! Paid a myn'd i'r golwg, Marged, gad i ni weld be neiff o."Yr oedd tŷ'r giat yn nghanol twr o dai, ac aeth Edward yn ei flaen drwy y giat heb alw am Thomas. Ond nid oedd efe wedi myn'd ddeg llath cyn i Thomas redeg i'r drws a gosod ei ddwylaw ar ei gêg a gwneyd trympet o honynt, a gwaeddodd nerth esgyrn ei ben,—"Hoi! hoi!! hoi!!! dacw hen flaenor yn myn'd