Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r capel heb ddweyd ei bader!" Cododd yr holl gymydogaeth a throdd Edward Roberts yn ei ol wedi yswilio hyd ei esgidiau, a bu Thomas ac yntau yn fwy o gyfeillion nag erioed.

Cefais y stori ganlynol am Thomas Owen gan Dr. Roger Hughes, Bala. Ers talwm, gwahoddid ambell bregethwr i roi taith drwy ran o sir er mwyn ei gynorthwyo i dalu y rhent, ac ambell un arall am fod chwant ar y wlad ei glywed. Hwyrach fod pobl Meirion yn cael eu cymhell gan fwy nag un rheswm pan roisant wahoddiad i Thomas Owen ddyfod ar daith bregethwrol trwy ran o'r sir. Gŵyr pawb sydd wedi astudio geography fod Sir Feirionydd yn cael ei rhanu gan y Methodistiaid i ddwy ran, sef "y pen yma," a'r "pen acw." Ond er i mi fod yn y ddeuben fwy nag unwaith, ni fedrais erioed wybod pa un oedd "y pen yma," na'r "pen acw," oblegid pan fyddwn yn Harlech siaradai y trigolion am Gorwen fel y " pen acw," a phan fyddwn yn Nghorwen siaradai y bobl am Harlech a'r gymydogaeth fel y "pen acw." Felly ni fedraf benderfynu yn mha ben y bu taith Thomas Owen. Ond y mae'n eithaf hysbys iddo fod yn nghapel Cwmtirmynach, a chafodd yno oedfa hynod o galed, ac nid oedd dim a