Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hen oedfa galed hono!" "Os ces i fy argyhoeddi erioed," ychwanegai yr hen wraig, dan y bregeth hono y cês i hyny. Yr ydw i'n cofio'ch text chi o'r gore,—'Yr hwn nid arbedodd ei briod-fab, ond a'i traddododd ef trosom ni,' &c. Anghofia i byth mo'r oedfa ryfedd hono, Thomas Owen bach." "Be? be?" ebe Thomas, ac wedi cael ychwaneg o ymgom efo'r hen wraig cafodd ei argyhoeddi ei bod yn dweyd y gwir. Nid aeth efe heibio Cwmtirmynach, ond cafodd yno yr oedfa fwyaf llewyrchus yn ei daith. Y fath gysur i bregethwyr yr oedfeuon caled! ebe F'ewyrth Edward.

—————————————

Y Gweinidog

Yn adnabod James Lewis? oeddwn debyg, ebai Flewyrth Edward. A fydda 'i byth yn meddwl am dano heb i ryw dòn o dristwch dd'od dros fy ysbryd. Dyn anghyffredin oedd James. Methodistiaid oedd ei rieni, a James oedd eu hunig blentyn. Cadw siop fwyd yr oedd Dafydd Lewis. Nid oedd y siop ond bechan, ac er fod Dafydd yn ddiwyd a pharchus yn mhlith ei gymydogion, mewn trafferth y byddai beunydd i gael y ddeuben ynghyd. Er