Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hogyn yr oeddym yn arfer edrych ar James Lewis fel un oedd yn meddu mwy o dalent na holl fechgyn yr ardal, a'n rhoi ni gyd gyda'n gilydd. Yr oedd o mor bright, pan yn fachgen, fel y prophwydai llawer y byddai yn siwr o ddylu wedi tyfu i fyny. Pan yn bedair oed adroddai adnodau a phenillion nes synu pawb. Yn ddigon naturiol yr oedd ei dad a'i fam yn meddwl y byd o hono. Clod i galon ei dad, fe r'odd yr ysgol oreu fedrai i James, o'r fath ag oedd ysgolion y pryd hwnw. Clywais fy nhad yn dweyd lawer gwaith ei fod yn sicr fod Dafydd yn gwasgu arno ei hun er mwyn rhoi ysgol i Jim bach, fel y galwai ef. A rhyfedd, o drugaredd, fel y mae pethau wedi newid. Welaist di 'rioed fel y byddai pobl, a phobl go dda hefyd, yn beio Dafydd Lewis. Dwedai rhai mai ei falchder oedd y cwbl, dwedai eraill mai arwain ei fachgen i'r crogbren yr oedd wrth roi cymaint o ysgol iddo, a dwedai eraill yn ddigon speitlyd fod yn rhaid fod cadw siop yn talu yn dda. Bychan y gwyddent y bu raid i Dafydd fenthyca arian lawer gwaith gan fy nhad i dalu'r rhent er mwyn cyfarfod â chost ysgol James Ond dyna oedd y ffaith; a chymaint oedd cenfigen a ffolineb rhai fel nad