Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aent byth i siop Dafydd Lewis i wario ceiniog os gallent beidio. Er cymaint o brophwydo a fu y byddai i James y siop ddylu, parhau i gynyddu a dysgleirio yr oedd yr hogyn. Yr oedd yn ddysgwr diail; ond ei awyddfryd mawr oedd gallu siarad Saesoneg yn dda, ac yr oedd hyny yn 'sgleigdod mawr yr adeg hono. Yn wir, wrth glywed James pan oedd yn ddeg oed yn siarad Saesoneg yn llyfn a rhwydd, yr oeddym ni yr hogiau, yn edrych arno fel rhyw ail Ddic Aberdaron. Yr oedd llyfrau yn brinion yn yr ardal, a phan elai James i dai rhai o'r cymydogion a gweled yno lyfr nad oedd wedi ei ddarllen, ni chai ei fenthyg er gofyn—mor genfigenllyd oedd pobl. Parodd hyn i'r bachgen gymeryd benthyg y llyfrau heb ofyn, a chafodd y gair o fod yn lleidr llyfrau. Ond i ddiwallu ei enaid y trodd yn lleidr. Wedi i James orphen ei ysgol, aeth i helpio ei dad yn y siop, ond byddai yn darllen mwy nag a fyddai yn helpio, ac ni fyddai yn gwrthod neb o drust, ac felly llanwodd lawer ar lyfr y siop, fe ddwedid. Fel bechgyn talentog yn gyffredin yr oedd yn llawn o ysmaldod a direidi diniwed. Parodd hyn i'r hen flaenoriaid ei wylio yn fanwl a chilwgu arno. Cynhelid y pryd hwnw yr hyn a