Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gywilydd, wrth ei weld yn hogyn mor dàl, y cafodd ei dderbyn o'r diwedd. Cychwynodd James gyfarfod i'r bechgyn ifinc, ac er nad oedd dim gwaeth yn myn'd yn mlaen ynddo nag areithio, darllen, ac adrodd am y goreu, buan y rhoddodd yr hen flaenoriaid stop arno. Ond, yn ddirgel, cawsom lawer cyfarfod yn warehouse Dafydd Lewis, lle cafwyd, nid yn unig ddarllen ac areithio, ond ambell bregeth gan James, weithiau yn Gymraeg, bryd arall yn Saesneg. Yr oeddym yn meddwl yn uwch o'r bregeth Saesneg am nad oeddym yn ei deall. Heb i mi gwmpasu, aeth y stori allan y medrai James bregethu yn ods o dda, ac felly y gallai hefyd. Yr oedd ychydig o aelodau yr eglwys yn credu fod James wedi ei eni i fod yn bregethwr —yr oedd yn ddoniol, yn wybodus ac yn olygus o ran corff, ac yr oedd ei gymeriad yn ddilychwin, a phan oedd oddeutu deunaw oed ceisiodd rhai gael ei achos yn mlaen, ac yr oedd yntau yn bur awyddus i hyny. Ond nid oedd siawns cael gan yr hen dadau yn y sêt fawr gydweled—yr oedd eisieu mwy o bwyll. Ac felly y bu James Lewis am oddeutu dwy flynedd—yn cael edrych arno fel un wedi ei fwriadu i bregethu, ond yn methu cael license. Yr adeg hono yr oedd gyda'r