Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Annibynwyr Cymreig weinidog ieuanc—gŵr cymeradwy ac wedi cael gwell addysg na'r cyffredin o bregethwyr. Aeth James ac yntau yn gyfeillion, a chyn pen hir gofynodd James am ei docyn i fynd at yr Annibynwyr. Agorodd pawb eu llygaid—gwelsant eu camgymeriad, ond yr oedd yn rhy hwyr. Yr wyf yn cofio yn dda fod rhai o honom ni, ei gymdeithion penaf, wedi ein gorchfygu yn lân gan ein teimladau wrth feddwl fod ein hen gyfaill doniol a charedig yn ein gadael, ac ni fuom yn brin o ymosod yn ein plith ein hunain ar yr hen frodyr. Yn mhen ychydig wythnosau yr oedd James yn pregethu ei hochr hi efo'r Annibynwyr, yn Gymraeg a Saesneg, nid oedd gwahaniaeth ganddo p'run, ac yr oedd sôn am dano hyd y wlad fel un o'r dynion ifanc mwyaf addawol a feddai yr enwad. Aeth hyn yn mlaen yr rhawg pryd y daeth teulu Saesnig o Lundain, oeddynt yn Annibynwyr, i'r gymydogaeth am fis er mwyn eu hiechyd. Clywsant James yn pregethu, ac yr oeddynt wedi dotio ato. Yn mhen rhai misoedd wedi i'r teulu ddychwelyd, gwahoddwyd James i Lundain i sypleio, fel y dwedir. Aeth yntau ac arhosodd yno. Toc ar ol hyn, clywsom ei fod wedi ei sefydlu yn weinidog ar eglwys flodeuog, ac fod