Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y penodiad yn hapus, ac yntau yn dyfod yn ei flaen yn rhagorol. Aeth deuddeng mlynedd heibio, ac yn y cyfamser byddem yn clywed yn achlysurol am lwyddiant a phoblogrwydd James. Ond un diwrnod, pwy a welem yn yr hen gymdogaeth, ond James. Yr oedd golwg barchus arno, ond yr oedd rhywbeth tra gwahanol ynddo i'r hyn a fyddai arfer. Yr oedd yn brudd a distaw, ac yr oedd yn amlwg fod rhywbeth anghysurus wedi digwydd iddo, ac o herwydd hyny nid oedd neb yn ei holi. Fe ddaru niddeall yn union nad oedd yn bwriadu dychwelyd i Lundain. Yr oedd ei rïeni erbyn hyn wedi meirw er's peth amser, ond, fel y digwyddodd, yr oedd y siop a fuasent yn ei dal yn wag, a mawr oedd ein syndod pan aeth y gair allan fod James Lewis wedi cymeryd hen siop ei dad, yr hon a agorodd ar unwaith. Elai James i gapel yr Annibynwyr ar y Sabboth, ond yr oeddym yn deall na fyddai yn aros yn y gyfeillach, neu, fel y byddwn ni yn dweyd, y seiat. Ymddangosai ef a'r gweinidog, yr hwn a'i cododd i bregethu, yn bur gyfeillgar, a chredai llawer na wyddai neb ond Mr. Price am yr achos i James roi y weinidogaeth i fyny, ac ail-ddechreu busnes, ond dyfalai pobl lawer o