Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fy sefydlu ar eglwys led gref yn Llundain. Ar y dechreu yr oeddwn yn bur bryderus a oedd gen i ddigon o adnoddau ar gyfer y gwaith. Gweithiais yn galed a diflino yn hwyr ac yn fore, ac yn y man teimlais fod Duw yn fy mendithio ac yn arddel fy llafur. Cynyddodd yr eglwys a'r gwrandawyr yn fawr. Yr oedd yno chwech o ddiaconiaid—dynion da a grasol, hawdd byw gyda hwy, ac yr oeddym yn gallu cyd-weithio yn rhagorol. Aeth pethau yn mlaen fel hyn am flynyddoedd heb un hitch. Yn perthyn i'm heglwys yr oedd hen ferch—pe buasai yn hen hefyd, nid oedd fawr hŷn na minau–gyfoethog a dylanwadol. Yr oedd y ferch hon yn bobpeth ond prydferth. Ystyrid hi yr un fwyaf crefyddol o bawb o honom—ni byddai byth yn colli moddion y Sabboth na chanol yr wythnos. Ymwelai yn gyson â'r tlodion, ac yr oedd yn haner cadw rhai o honynt. Hi oedd ein Dorcas. Cyfranai at y weinidogaeth ac at achosion eraill gymaint a dwsin o'r rhai mwyaf haelionus, ac nid oedd terfyn ar ei charedigrwydd i mi, y gweinidog. Heblaw hyny, yr oedd wedi cael addysg dda, ac yn un hynod ddeallgar. Hawdd i ti gredu fod ei dylanwad yn yr eglwys yn fawr. Yn wir, ni byddem yn