Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dychmygu am gychwyn unrhyw symudiad heb yn gyntaf ymgynghori â Miss Perks—dyna oedd ei henw—oblegid gwyddem y byddai raid i ni gyfrif ar ei phwrs, ac ni byddai hithau byth yn grwgnach, am ei bod yn sant, fel y credwn, yn gystal a bod yn gyfoethog. Disgwylid i mi, fel gweinidog, ymweled â phob aelod o'r eglwys yn eu tro, ond yn bur naturiol, fel y gellit feddwl, syrthiais i'r arferiad o ymweled â Miss Perks yn llawer amlach nag â neb arall, am y gallwn dreulio awr neu ddwy yn ei chwmni er mantais i mi fy hun. Yn aml iawn byddai ganddi lyfr newydd, ac os byddai wedi ei ddarllen cawn ef yn anrheg ganddi. Yr oeddwn yn ei mawrhau tu hwnt i bawb. Aeth hyn yn mlaen am un mlynedd ar ddeg, a gwyddai pawb fy mod yn ymweled â hi yn aml, yn amlach nag y dylaswn, hwyrach. Yn y ddeuddegfed flwyddyn o fy ngweinidogaeth dechreuodd Miss Perks fy ffoli am na fuaswn yn priodi; atebais inau nad oedd genyf amser i feddwl am hyny. Parhaodd i fy ffoli bob tro yr awn yno, nes yr oeddwn wedi diflasu ar ei stori, a dechreuais fynd yno yn anamlach. Un diwrnod gwahoddodd fi yno i dê, ac aethum inau, oblegyd nid gwiw oedd anufuddhau i Miss Perks. Ar ol tê, dwedodd