wrthyf, dan gryn deimlad, ei bod wedi meddwl am danaf yn wr, ac nad oedd am gymeryd ei gwrthod. Dychrynais, oblegyd, er fy mod yn synied yn uchel am dani, y peth olaf yn fy meddwl a fuasai meddwl am ei phriodi. Dwedais wrthi fy mod yn bur ddiolchgar iddi am ei chynygiad caredig, ond nad oeddwn wedi meddwl am briodi; ac atebodd hithau fod yn hen bryd i mi feddwl, ac felly y terfynodd y siarad. Y tro nesaf yr euthum yno daeth a'r peth yn mlaen drachefn, a chyfrifodd i mi ei heiddo, a dwedodd y gwnai y cwbl i mi os priodwn hi; ond troais y stori at rywbeth arall gan geisio chwerthin y peth i ffwrdd, er nad oedd chwerthin ar fy nghalon, ac euthum ymaith yn fuan. Daeth yr un pwnc yn mlaen pan euthum yno wed'yn, a dwedais wrthi os soniai am y peth drachefn y byddai raid i mi roi heibio ymweled â hi, ac atebodd hithau y daliai i son nes i mi wrando arni. Nid euthum yno mwy. Erbyn hyn yr oeddwn yn druenus, a gwyddwn fod yr helynt yn effeithio ar fy mhregethu—yr oeddwn yn anesmwyth drwof, ac ni fedrwn gael fy myfyrdodau at eu gilydd i barotoi ar gyfer y Sabboth—yr oedd Miss Perks yn ei sêt yn y capel o flaen fy meddwl yn barhaus. Ni wyddwn