Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth i'w wneud. Dymunwn yn fy nghalon gael galwad i ryw eglwys arall, yr hyn a gawswd fwy nag unwaith pan nad oeddwn yn barod i'w derbyn. Un noswaith synais weled y chwe' diacon yn y cyfarfod eglwysig—yr oedd hyny yn beth amaethyn, oblegid yr oeddynt yn ddynion prysur, llawn eu trafferth gyda'r byd. Ar ol y cyfarfod, yn y vestry-room, canfyddais ar eu hwynebau fod rhywbeth yn bod, ac heb i mi fanylu: ti, dwedasant fod ganddynt gwyn ddifrifol yn fy erbyn—fod Miss Perks wedi eu hysbysu fy mod ar fwy nag un achlysur wedi ymddwyn yn anweddus ati, a chwbl anheilwng o weinidog yr Efengyl, ac wrth gwrs nad allent amheu gair Miss Perks. Yr oeddwn wedi fy syfrdanu, a daeth rhywbeth i fy ngwddf fel nad allwn ddweyd gair am amser, a chrynwn fel deilen. Yr oeddwn yn ddig enbyd wrthyf fy hun, oblegid gwyddwn eu bod yn edrych ar yr arwyddion hyn fel prawf o fy euogrwydd. Pan ddeuthum ataf fy hun adroddais yr hyn yr wyf wedi ei adrodd i ti yn barod. Ond gwyddwn nad oeddynt yn fy nghredu, a dwedasant fod yr hyn a adroddwn yn anhebyg i Miss Perks—eu bod yn ei hadwaen er ys deng mlynedd ar hugain. Dwedodd y diacon hynaf—y callaf a'r