goreu o honynt—eu bod wedi bod yn cydymgynghori, ac mai'r peth goreu i mi, i'r achos mawr, ac i'r eglwys, oedd i mi reseinio ar un waith; a'u bod wedi d'od i'r penderfyniad hwn gyda gofid mawr, ond fod yn rhaid iddynt ystyried teimladau Miss Perks. Wedi llawer o siarad, ac i mi wneud llwon mawr, ysgydwais ddwylaw â phob un o honynt, ac nid oedd wyneb un o honom yn sych. Prysurais i fy llety fel dyn gwallgof, a deuthum yma yn fy mlaen dranoeth. Gelli ddyfalu cyflwr fy meddwl byth er hyny. Ond yr wyf yn gweddïo ddydd a nos ar Dduw glirio fy ngharitor, a mi gredaf y gwnaiff ryw dro, hwyrach pan fyddaf fi wedi myn'd o'r golwg. Nid oes neb yma yn gwybod yr hanes ond Mr. Price, gweinidog yr Annibynwyr, ac y mae ef wedi bod yn crefu arnaf lawer gwaith am gael chwilio i'r achos, ond yr wyf wedi ei atal. Cadw y cwbl i ti dy hun ar hyn o bryd."
Bu James Lewis a minau yn fwy o gyfeillion nag erioed ar ol hyn. Yn mhen tair blynedd gelwais un diwrnod yn ei siop, a dwedodd ei was fod Mr. Lewis wedi mynd oddi cartref am rai dyddiau. Cyn diwedd yr wythnos hono cefais air ganddo i ddod yno. Yr oedd yn