Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawen, ond yn hynod gynhyrfus. Estynnodd ysgrif i mi yn adrodd cyfaddefiad gwely angau Miss Perks mai anwiredd noeth a ddwedasai am ei "gweinidog anwyl." Pan aeth y genawes i farw teimlodd wrês y tân tragwyddol yn rhy boeth, a chrefodd ar y diaconiaid i anfon am James Lewis Gwnaeth y cyfaddefiad o flaen James a phedwar o'r diaconiaid; ac â'i hanadl olaf megys, ceisiodd ganddo gymeryd iawn mewn arian am y camwri, ond gwrthododd James hyny gyda dirmyg. Ond dwedodd James wrthyf ei fod wedi maddeu iddi, a gweddïo wrth erchwyn ei gwely am faddeuant Duw iddi. Bu farw Miss Perks dranoeth, a daeth James yn ei ol gyda charitor a chydwybod lân. Ond effeithiodd yr helynt mor dost arno fel y bu yntau farw toc.

A dyna stori James Lewis i ti, un o'r bechgyn mwyaf talentog a welais erioed, ac mae'r stori cyn wired a'r pader, ebai F'ewyrth Edward.

—————————————

William y Bugail

Yn cofio hanes William y Bugail? Ydw debyg, fel bydase wedi digwydd ddoe, ebe F'ewyrth Edward. A hanes rhyfedd ydi o hefyd. Un o'r dynion harddaf a welaist erioed