Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd William; yr oedd dros ddwy lath o daldra, ac o gyfansoddiad cryf a chadarn. Yr oedd o hefyd yn cael ei gyfrif yn mhlith ei gymndogion yn un o'r dynion mwyaf dewr a diofn a' ellid ei gyfarfod mewn blwyddyn. A da i William oedd hyny, achos yr oedd ei alwedigaeth yn gofyn iddo weithiau fod hyd y mynyddoedd bob adeg o'r nos, ac ar bob math o dywydd. Bugail mewn gwirionedd oedd William, ac os byddai rhyw anghaffael ar y defaid, ni wnai gerwindeb y tywydd beri iddo esgeuluso dim arnynt. Peryglodd ei fywyd ddegau o weithiau er mwyn hen ddafad neu oenyn diwerth ynddynt eu hunain. A mi fyddaf yn meddwl fod Duw yn cymeryd yn garedig ar ddyn am bethau felly—mae yna rywbeth dwyfol mewn mentro bywyd er mwyn cadw bywyd. Wel, yr oedd William yn caru merch yr Henblas, ac ar fin myn'd i'w briodi. A geneth landeg anwêdd oedd Susan yr Henblas, yr wyf yn ei chofio yn dda, ac wedi i William roi ei fryd arni, nid gwiw oedd i neb arall feddwl am dani o ofn William, achos, fel y dwedais, yr oedd William yn ddyn nerthol ryfeddol, er ei fod, am ddim a glywais, yn hollol ddiniwed, ac ni chlywais erioed ei fod yn meddwi nac yn arfer geiriau drwg. Yr oedd o'r