Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pentre, lle yr oedd William yn byw, i'r Henblas dair milltir neu ychwaneg, ac yr oedd y ffordd dros y mynydd. Ond elai William i edrach am Susan ddwywaith neu dair yn yr wythnos, waeth be fyddai y tywydd.

Un noswaith yr oedd oedfa i fod yn y capel ganol yr wythnos, ac agos bob amser pan fyddai rhywbeth yn y capel ar noson waith, fe fyddai yn arferiad gynon ni, meibion a gweision ffarmwrs, i fyn'd at y capel ryw chwarter awr cyn amser y moddion, er mwyn cael ymgom a chlywed y newydd. Yr oedd cryn feio ar yr arferiad, ond yr oedd rhywbeth i'w ddweyd drosto—anaml ond ar adegau felly y byddem yn cael cyfleustra i weled ein gilydd, am ein bod yn byw ar gryn wasgar. Wel, fel y dywedais, yr oedd oedfa i fod yn y capel ar nos Fercher, ac yr oedd amryw o honom fel glaslanciau wedi hel at y capel dipyn cyn yr amser. Yr oedd yn nogwaith rewllyd a lled oleu, ac wedi i ni fod yn ymgomio tipyn, pwy a welem yn dyfod tuag atom o gyfeiriad y mynydd, ond William y bugail. Pan ddaeth atom fe ddaru i ni gyd sylwi ei fod yn edrach braidd yn gynhyrfus, a mi ofynais iddo a oedd rhywbeth wedi digwydd i'r defaid, ac ebe fynte, a dyma ei eiriau i ti bob gair,—