Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyd, ac i neb yn fwy nag iddo ef ei hun, ac yr oeddym yn credu pob gair o'r stori, oblegid dyn perffaith eirwir oedd William y bugail. Wrth ei weled wedi cynhyrfu cymaint, mi ddwedais wrtho yn ysgafn mai rhagarwydd o'i briodas oedd y weledigaeth, ac aethom i'r capel a William gyda ni. Ond y mae y peth rhyfedd yn ol Yn mhen yr wythnos i'r nos Fercher hono yr oedd wedi bod yn bwrw eira yn lled drwm, ond yn ffyddlon i'w gyhoeddiad aeth William y bugail dros y mynydd i'r Henblas i edrach am Susan. Ni arosodd yn hir efo'i gariad, oblegid cofiai am y siwrnai oedd ganddo ar y fath noswaith. Toc wedi iddo adael yr Henblas, dechreuodd fwrw eira yn enbyd, a throdd yntau i dafarn i aros i'r gawod fyn'd drosodd. Ni chafodd ond un gwydriad,—ni byddai byth yn cymeryd mwy nag un,—oblegid dyn cymedrol a sobr iawn oedd William. Wrth ei gweld yn dal i fwrw, penderfynodd gychwyn gartref,—yr oedd yn berffaith gyfarwydd â'r mynydd, ac wedi bod arno ddegau o weithiau ar dywydd gwaeth, meddai. Ond ni chyrhaeddodd William byth ei gartref yn fyw. Cafwyd ef drannoeth wedi marw yn yr eira. Erbyn hyn cofiai yr hogiau stori William wrth giat y capel, a rhyfedden