Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth feddwl am y peth. Yn mhen ychydig ddyddiau, yr oeddwn i ac amryw o'r hogiau oedd yn gwrando stori William, yn ei gladdedigaeth, a phrin y medrem anadlu pan welsom nad oedd neb yno ar gefn ei geffyl ond John Roberts y Foty. Torodd Susan yr Henblas ei chalon toc ar ol hyn, a bu farw o'r dicâu. Sut y sboni di beth fel stori William y bugail, nid wn i ddim, ond y mae mor wir a mod i yn eistedd yn y gader yma, ac y mae amryw yn fyw heddyw sydd yn cofio y peth cystal a minau, ebai Fewyrth Edward.

—————————————

Ci Hugh Burgess

EBE F'ewyrth Edward,—

Yr wyf wedi son wrthyt o'r blaen am Thomas Burgess, giaffer ffactri gotwm yr Wyddgrug. Yr oedd ei wraig blwc yn iengach nag ef, ac yr oedd ganddynt un plentyn, bachgen oddeutu naw oed. Er mai dyn lled frwnt, fel y dywedais, oedd Burgess, yr oedd yn hoff iawn o'i fachgen, ac yn ei syrffedu 'mron â moethau, ac felly y gwnai Mrs. Burgess. Yn wir, credai llawer nad oedd gan yr hen Burgess a'i wraig amcan arall mewn bywyd ond dedwyddwch a