Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phleser eu bachgen Hugh. Hoffter mawr Hugh oedd creaduriaid mudion, a thrwy garedigrwydd ei rieni yr oedd ganddo yn tŷ amryw fathau o adar, ac yn y buarth golomend, gwningod, mul bach, a wn i faint o bethau ereill, a chenfigenai bechgyn yr ardal at liosogrwydd ei dda byw. Elai Hugh i'r British School, yr hon oedd oddeutu milltir o'i gartref, a rhag iddo orfod cerdded ol a blaen, cymerai ei ginio mewn basged fach ddel gydag ef i'r ysgol.

Gyferbyn â'r British School, yn un o'r tai bychain hyny, wyddost, yr oedd dyn o'r enw Martin yn byw, yr hwn a enillai ei fywiolaeth,—yn ddigon gonest am wn i,—wrth werthu cnau, oranges, india rock, a phethau felly, a byddai yn ymweled yn gyson â marchnad Rhuthyn, Dinbech, a Gwrecsam. Gwyddel oedd Martin, a byddai ganddo fen fach ysgafn ar bedair olwyn, a'i thop yn fflat fel bwrdd, ar yr hon y cariai ei nwyddau i'r marchnadoedd, a'r hon a wasanaethai iddo fel stondin. Dau gi mawr a fyddai yn tynu y fen fach, ac wrth fyn'd i lawr y gelltydd neidiai Martin ar dop y fen, a byddai y cwn yn myn'd fel mellten. Ond byddai raid i Martin eu helpio i fyny y gelltydd.

Bum yn synu ganoedd o weithiau at