Tudalen:Straeon y pentan.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iawn. Ond y peth cyntaf a wnai yr hen sowldiwr wedi derbyn ei arian, — ac yn hyn yr oedd yn siampl i lawer yn y dyddiau hyn, — oedd myn'd o gwmpas i dalu ei ddyled, ac yna, fel yr oedd gwaetha'r modd, gwariai ef a Beti y gweddill am gwrw. Ond, fel y dwedais, byddai yn brinder mawr arnynt am wythnosau cyn diwrnod y pension, a llawer sgil a wnai Tomos i gael diferyn. Ar adeg felly, un tro aeth Tomos at ŵr diarth oedd newydd agor tafarn yn y gymydogaeth, a gofynodd, —

"Ddyn glân, gai beint o gwrw gynoch chi?"

"Cewch, os oes gynoch chi arian," ebe'r tafarnwr.

"Fydda i byth heb arian," ebe Tomos, ac estynodd y dyn y ddiod iddo. Wrth ei weld heb neud osgo i dalu, ebe'r tafarnwr, —

"Lle mae'r pres, ddyn?"

"Does gen i ddim prês, ond y mae gen i arian," ebe Tomos, a thynodd ei het a dangosodd iddo y plât arian ar dop ei ben. Synodd y tafarnwr yn fawr, ac ni rwgnachodd am iddo gael ei neud am dro.

Un noson oer yn y gaeaf, yr oedd Tomos a Beti yn sgrythu o flaen mymryn o dân oedd yn y grât, ac yr oedd yn glem wyllt arnynt, oblegid