Tudalen:Straeon y pentan.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nid oedd ond wythnos hyd ddiwrnod y pension, Ochneidiodd Beti yn llwytlog, ac ebe hi, —

"Wyst di be, Tomos, mi leiciwn bydawn i yn y nefoedd."

"Be ddeudest di?" ebe Tomos.

"Y leiciwn i yn y nghalon bydawn i yn y nefoedd," ebe Beti.

"Ho, felly'n wir," ebe Tomos, "mi leiciwn inne bydawn i yn y dafarn a pheint o gwrw o mlaen."

"Yr hen sgrwb," ebe Beti, "yr wyt ti 'n wastad am y lle gore."

Mi fedrwn adrodd i ti amryw o bethau cyffelyb am Tomos a Beti Mathias, ebe F'ewyrth Edward, ond dyna ddigon i ddangos i ti mor anwybodus a diniwed oedd yr hen bobol er's talwm, ac mor ddiolchgar y dylech chi, bechgyn yr oes hon, fod am eich manteision addysg a'r Ysgol Sul a'i breintiau.

Ysbryd y Crown

FEL y mae'r Nadolig yn agosau, ebe F'ewyrth Edward, mae'n gwneud i mi feddwl fel y byddai pobol er's talwm yn adrodd hanes