Tudalen:Straeon y pentan.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysbrydion wrth y tân ar hirnos gauaf tua'r adeg hon ar y flwyddyn. Mae addysg a phregethiad yr Efengyl wedi gwneud cyfnewidiad mawr yng Nghymru o fewn fy nghôf i, er nad ydw i ddim yn hen iawn. Yr ydw i'n cofio pan oeddwn yn llanc yn Sir Ddinbech, fod pobol yn gyffredinol yn credu mewn ymddanghosiad ysbrydion, a mi fedrwn enwi i ti amryw leoedd y byddent yn deud fod rhwbeth yn trwblo yno. Yn wir, yr oedd rhai pobol lled barchus yn credu yn 'u clone fod, nhw wedi gweled ysbryd neu rywbeth na fedrent ei esbonio. Ond yr oedd dy daid yn Fethodist selog, fely gwyddost, ac yn ddig iawn wrth ofergoeledd y cymdogion, ac mi gymerodd lawer o drafferth efo ni i'n dysgu a'n goleuo i beidio rhoi coel ar bob stori wirion am ysbrydion. Erbyn i mi dyfu i fyny yn llanc, yr oeddwn yn meddwl nad oedd genyf flewyn o ofn hyny o ysbrydion oedd yn y byd. Ond un tro mi ges allan nad oeddwn mor ddewr ag yr oeddwn yn meddwl y mod i. Ac fel hyn y bu. Yr oedd y nhad a Fewyrth Pitar yn lled debyg o ran eu hamgylchiadau — yn bobol a chryn dipyn o'u cwmpas, ond yr arian yn gyffredin yn brin. Yr oedd pymtheng milltir rhwng ein tŷ ni a'r Llwybr Main, y ffarm a ddaliai F'ewyrth